Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2016

Amser: 09.02 - 11.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3382


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Jocelyn Davies AC

Mike Hedges AC

Sandy Mewies AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

Tystion:

 

Staff y Pwyllgor:

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gemma Gifford (Dirprwy Glerc)

Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru)

Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 69KB) Gweld fel HTML (68KB)

 

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1        Croesawodd  y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Nid oedd ymddiheuriadau.

</AI2>

<AI3>

2       Papurau i’w nodi

2.1 Nodwyd y papurau.

</AI3>

<AI4>

2.1   Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Simon Jones, Cadeirydd Holdco (19 Chwefror 2016)

</AI4>

<AI5>

2.2   Maes Awyr Caerdydd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (22 Chwefror 2016)

</AI5>

<AI6>

2.3   Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (24 Chwefror 2016)

</AI6>

<AI7>

2.4   Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Chris Cain, Northpoint Aviation (23 Chwefror 2016)

</AI7>

<AI8>

2.5   Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Undeb Rygbi Cymru - Cyfyngedig (24 Chwefror 2016)

</AI8>

<AI9>

2.6   Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (24 Chwefror 2016)

</AI9>

<AI10>

3       Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Ystyried ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

3.1 Gwnaeth yr Aelodau drafod a nodi’r ymateb a gafwyd gan y sefydliadau ynghylch yr argymhellion a gyflwynwyd iddynt yn adroddiad y Pwyllgor a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:

·         Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am farn ar y materion yn ymwneud â threfniadau yswiriant Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dull Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar gyfer codi ffi am ddigwyddiadau a’i barn am drefniadau’r ddau sefydliad o ran diswyddo. 

·         Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad esbonio’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i wneud y deunydd a gyhoeddir ar ei wefan yn fwy hygyrch, yn enwedig i bobl â gofynion penodol. 

·         Cynnwys argymhelliad yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylai’r Pwyllgor dilynol graffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 yn nhymor yr hydref 2016 ac ystyried yn benodol a yw’r ffordd y cyflwynir y cyfrifon wedi gwella ac a ydynt yn cynnwys linc i Adroddiad Rheoli Grantiau Blynyddol Llywodraeth Cymru. Awgrymwyd hefyd efallai y bydd y pwyllgor dilynol am edrych yn ehangach ar ddull Llywodraeth Cymru o leihau ei defnydd o ynni.

·         Cynnwys argymhelliad yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylai’r Pwyllgor dilynol graffu ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn nhymor yr hydref 2016.

</AI10>

<AI11>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

4.1 Cytunwyd ar y cynnig.

</AI11>

<AI12>

5       Trafod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft diwygiedig ynghylch yr Adolygiad o Siarter y BBC

5.1 Gwnaeth yr Aelodaunodi a chroesawu’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft diwygiedig ynghylch yr Adolygiad o Siarter y BBC.

5.2 Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi diolch iddi am wahodd y Pwyllgor i drafod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ac i roi gwybod hefyd y bydd adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor yn cynnwys argymhelliad y dylai’r pwyllgor dilynol ystyried cynnwys cyfrifon y BBC fel rhan o’i waith blynyddol yn craffu ar gyfrifon.

</AI12>

<AI13>

6       Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

6.1 Cafodd yr Aelodau wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch ei adroddiad, Sefydlu ac arolygu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror. 

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>